Penderfyniad

Syndod: rydw i’n ysgrifennu yng Ngymraeg! Ar unwaith rhaid i fi ymddiheuro am y safon fabanaidd.  Fyddwch chi ddim yn darllen y (peswch) rhyddiaith Dic Mortimer gloyw arferol; byddwch chi’n darllen y creifion crynedig o’r dysgwr diog – ond, cyseiniaf i o hyd.

Mae’r ganran sy’n siarad Cymraeg wedi gostwng o 21% i 19% yn ystod deng mlynedd (sylwch y treiglad trwynol dyrys!).  Dyna gwymp 9%; tasai fe’n parhau, bydd Cymraeg ar goll erbyn diwedd y ganrif hon. Rhaid i ni beidio gadael i hynny ddigwydd.

Dau paragraffau bach.  Camgymeriadau lluosog.  Cynnwys syml ddiflas.  Cywilydd cyhoeddus.  Yn union fel fy Saesneg wedyn (hunan-feirniadaeth: hen dric i mi – mae’n atal pobl eraill yn ei wneud).

Byddaf i’n ceisio defnyddio mwy o Gymraeg eleni.  Bygythiodd e…mae’n flin ‘da fi…addawodd e…